2013 Rhif 1985 (Cy. 195) (C. 84)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (Cychwyn) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Fesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 8 Awst 2013 adran 4 o Fesur 2009. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch bwyd a diod a ddarperir gan ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym ar 2 Medi 2013 adrannau 1 i 3 a 5 i 11 o Fesur 2009.

 


2013 Rhif 1985 (Cy. 195) (C. 84)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (Cychwyn) 2013

Gwnaed                                     7 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 12(3) o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (Cychwyn) 2013. 

Y diwrnod penodedig 

2. Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 ddod i rym yw —

(a)     8 Awst 2013 ar gyfer adran 4; a

(b)     2 Medi 2013 ar gyfer adrannau 1 i 3 a 5 i 11.

 

 

Carwyn Jones

Prif Weinidog Cymru

 

7 Awst 2013



([1])           2009 mccc 3.